CLWB ROTARI PORTHMADOG

Newydd   -   Dogfennau   -   Aelodau

Croeso i Glwb Rotari Porthmadog.

Rydym yn cyfarfod ar Nos Lun am 7.00 ar gyfer 7.30 yn Nhafarn y Golden Fleece yn Nhremadog.

(Ffôn: 01766 512421)

Llywydd: Patrick Fisher


 Rydym yn glwb bychan cyfeillgar gyda oddeutu 18 o aelodau gyda ystod eang o oedran a phrofiadau sy’n  amgylchu llawer o ddiddordebau.

Fel y rhan fwyaf o aelodau Rotari ar draws y byd ‘rydym yn ymwneud ac amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau sydd yn ceisio gwella bywydau eraill y nein cymuned leol a phellach yn y byd.

Mae’r Clwb yn cyfarfod pob Nos Lun am 7.00  ar gyferr 7:30 am bryd o fwyd yn Nhafarn y Golden Fleece yn Nhremadog. Mae siaradwyr gwadd yn dod atom yn rheolaidd i roddi sgyrsiau byr (oddeutu 20-25 munud) ar amrywiaeth o bynciau. Medwn cyfarfodydd eraill byddwn yn cynllunio a thrafod ein gweithgareddau cymunedol. Mae nifer o weithgareddau cymdeithasol eraill trwy gydol y flwyddyn, ble mae partneriaid a chyfeillion yn gallu bod ynbresennol, ac mae rhain yn ychwanegu at foddhad bod yn aelod o Rotari.

‘Rydym yun weithredol yn ein cymuned leol, trwy gynnal gweithgareddau megis cyngherddau a diwrnodau hwyl sydd nid yn unig yn cynorthwyo pobl leol ond hefyd yn codi arian tuag at brosiectau ymhellach i ffwrdd. Unwaith y flwyddyn ‘rydym yn cymryd rhan ym Mhrosiect Mynd a Phlant Allan ble mae Rotari yn mynd a phlant difreintiedig allan am ddiwrnod o hwyl.

Cefnogwn llawer o fudiadau lleol yn eu gwaith – Hosbis Ty Gobaith, Ysgol Arbennig Hafod Lon, yr Ambiwland Awyr, ynghyd allawer o rai eraill. Cefnogwn prosiectau byd eang Rotari megis cael gwared a Pholio. Byddwn yn ymateb yn syth pan fydd galw am gymorth, nail ai’n lleol neu pan fo trychinebau ar draws y byd fel y Tsunami neu daeargrynoedd mawr.

‘Rydym yn croesawu ymholiad gan unrhyw un, yn ddyn neu ddynes,  sy’n, teimlo y buasent yn mwynhau a chyfranu at fywyd cymdeithasol a chymunedol y Clwb.

Os ydych yn ymwelydd Rotari neu yn dymuno ymaelodi ‘rydym yn addo croeso cynnes i chi yn ein cyfarfodydd. Pe dymunwch ddod i’r clwn fel ymwelydd ffoniwch ein Ysgrifennydd, Richard Harrison, ar 01766 512165 i gael manylion am ein cyfarfod nesaf ac fe  edrychwn ymlaen i’ch croesawu’n gynnes iawn.

Am fanylion cyffredinol anfonwch ebost i
Clwb Rotari Porthmadog